Lleoliad:
Fideogynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Chwefror
2023
Amser:
13.31 -
16.11
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13210
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Alun Davies AS James Evans AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
|
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) Kate Rabaiotti (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
2.1 SL(6)313 – Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a’r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.
2.2 SL(6)314 – Gorchymyn Daliadau Amaethyddol (Unedau Cynhyrchu) (Cymru) 2023
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
3 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
3.1 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
4 Papurau i'w nodi
4.1 Gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a’r UE
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth â’r Prif Weinidog.
4.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus Y Bil Caffael
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.
4.3 Gohebiaeth gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru.
4.4 Gohebiaeth gan Synnwyr Bwyd Cymru: Y Bil Bwyd (Cymru)
Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Synnwyr Bwyd Cymru.
4.5 Gohebiaeth gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Economaidd a Thryloywder Corfforaethol.
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr.
4.6 Datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Safbwynt Llywodraeth Cymru ar y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol).
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad.
4.7 Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Gwelliannau'r Llywodraeth i Fil Amaethyddiaeth (Cymru).
Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
Derbyniwyd y cynnig.
6 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24: Adroddiad drafft
Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio): Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.
8 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Adroddiad drafft
Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig o'r adroddiad yn ei gyfarfod nesaf.